Trawsnewid yr Oesoedd Canol
17eg Cynhadledd Flynyddol Trawsnewid yr Oesoedd Canol, 3-4 Medi 2021
Dyddiad cau galw am bapurau: 2 Gorffennaf 2021
Prif siaradwr: I'w gadarnhau
Lleoliad: Ar-lein
Priodoli/Cam-briodoli
Digwyddiad blynyddol yw Trawsnewid yr Oesoedd Canol a gynhelir gan Ysgol Llenyddiaeth Saesneg Prifysgol Bangor gyda'r nod o archwilio'r byd canol-oesol a'i effaith sylweddol ar ddiwylliant a syniadaeth ddiweddarach. Daw ag ôl-raddedigion ac ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa ynghyd o bob rhan o'r Deyrnas Unedig a'r byd.
Mae'r gynhadledd hon yn unigryw nid yn unig oherwydd ei bod yn croesawu ymchwil o amrywiol ddisgyblaethau astudiaethau'r oesoedd canol, ond oherwydd hefyd ei diddordeb yn effaith a dylanwad sylweddol yr Oesoedd Canol ar ganrifoedd dilynol.
O ystyried sut y mae canoloesoldeb wedi cael ei ddefnyddio - ac yn parhau i gael ei ddefnyddio - i atal lleisiau ymylol, rydym yn awyddus i wahodd ysgolheigion graddedig, lleisiau sefydledig, a'r rhai sy'n awyddus i gymryd rhan mewn hyrwyddo'r sgwrs bwysig hon ynghylch priodoli diwylliannol yn y byd canoloesol.
Mae Trawsnewid yr Oesoedd Canol 2021 yn ymroi i ddadelfennu'r berthynas gymhleth rhwng yr Oesoedd Canol a phriodoli. Ein nod yw archwilio enghreifftiau o briodoli a cham-briodoli yn y byd canoloesol, a sut y mae canfyddiadau o'r Oesoedd Canol wedi'u priodoli/cam-briodoli mewn canrifoedd diweddarach.