Symud trwy chwedlau Arthuraidd

Galwad am bapurau

Dyddiad cyflwyno: Mehefin 30, 2020

Sut caiff testunau eu hail-ddyfeisio dros amser? Beth yw swyddogaeth testunau fel gwrthrychau diwylliannol yn eu cyfnod hanesyddol a thu hwnt? Sut mae testun yn creu cysylltiad gydag amseroedd, diwylliannau a lleoedd sy'n symud?

Rydym yn gwahodd papurau sy'n ymwneud â symud trwy chwedlau Arthuraidd yn croesi pob cyfnod, ffin, a disgyblaethau hanesyddol a llenyddol gan gynnwys y canlynol ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:

Ymhlith y pynciau a'r themâu posib mae:

  • Teithio, mudo a phererindod
  • Bondio teuluol
  • Bywyd a marwolaeth
  • Breuddwydion yn erbyn realiti
  • Hanes emosiynau
  • Cyfieithu rhwng ieithoedd a chyfryngau (ekphrasis, darlunio, cerddoriaeth)
  • Symudiad syniadau trwy amser, lle a gofod
  • Ailddarlleniadau o'r chwedl Arthuraidd dros amser

Rydym yn croesawu cynigion unigol am bapurau ugain munud (hyd at 200 gair). Rydym hefyd yn annog cynigion panel tri pherson (hyd at 300 gair). Dylai'r cyflwyniadau gynnwys teitl yn ogystal â phum gair allweddol. Anfonwch bob cyflwyniad (fel atodiadau PDF) at medievalismtransformed@bangor.ac.uk.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan raddedigion o unrhyw brifysgol.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.medievalismtransformed.bangor.ac.uk.